Addewid Preifatrwydd Firefox
Cymryd Llai
Rydym yn gwneud pwynt o wybod llai amdanoch chi
Mae pob cwmni technoleg yn casglu data i wella eu cynnyrch. Ond nid oes angen iddo gynnwys cymaint o'ch manylion personol. Yr unig ddata rydyn ni ei eisiau yw'r data sy'n eich gwasanaethu chi yn y diwedd. Rydyn ni'n gofyn i ni'n hunain: ydyn ni angen hyn mewn gwirionedd? Ar gyfer beth mae ei angen arnom? A phryd allwn ni ei ddileu?
Ei gadw'n ddiogel
Rydym ni'n gwneud y gwaith caled o ddiogelu eich manylion personol
Mae diogelwch data yn gymhleth - neu o leiaf dylai fod. Dyna pam rydyn ni'n cymryd y camau ychwanegol i ddosbarthu'r data sydd gennym ni, cynnal rheolau ar gyfer sut rydyn ni'n storio ac yn amddiffyn pob math, a pheidio byth â pheidio byth ag ailadrodd ein prosesau. Rydym yn blaenoriaethu eich preifatrwydd. Rydym yn buddsoddi ynddo. Rydym wedi ymrwymo iddo. Rydyn ni hyd yn oed yn dysgu cwmnïau eraill sut i wneud hynny.
Dim cyfrinachau
Byddwch bob amser yn gwybod ble rydych chi'n sefyll gyda ni
Does dim agenda gudd yma. Nid yw ein busnes yn dibynnu ar gam-ddefnyddio eich ymddiriedaeth yn dawel fach. Mae ein Hysbysiad Preifatrwydd yn hawdd i'w ddarllen. Os ydych chi am gloddio i bob pwynt data rydyn ni'n ei gasglu, mae ein cod yn agored. Ac felly ninnau hefyd.
-
Pam ymddiried yn Firefox?
Oherwydd ein bod ni'n blaenoriaethu pobl. Mewn gwirionedd, mae nid-er-elw yn gefn inni. O'r cychwyn cyntaf, ein cenhadaeth oedd amddiffyn y rhyngrwyd a phawb arno.
-
Eich preifatrwydd, yn ôl y cynnyrch
Mae cynnyrch Firefox yn gweithio'n wahanol - oherwydd eu bod wedi'u cynllunio i flaenoriaethu ddiogelu eich preifatrwydd.
Darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd ein cynnyrch