Theme Directory

All themes

Commercially Supported GPL Themes

Commercially supported GPL themes

Er bod ein cyfeirlyfr yn llawn o themâu gwych, weithiau mae pobl eisiau defnyddio rhywbeth y maent yn gwybod bod cefnogaeth ar gael iddo, ac nid oes gwahaniaeth ganddynt am dalu am hynny. Nid yw'r GPL yn dweud bod yn rhaid i bopeth fod am ddim, dim ond nad yw'n cyfyngu ar eich rhyddid yn y ffordd yr ydych yn ei ddefnyddio ar ôl i chi dderbyn y feddalwedd.

Gyda hynny mewn golwg, dyma gasgliad o bobl sy'n darparu themâu GPL gyda gwasanaethau ychwanegol am dâl ar gael o'u hamgylch. Gyda rhai ohonynt gallwch dalu i gael eu defnyddio, rhai yn wefannau aelodaeth, ac eraill yn cynnig y thema i chi am ddim ond yn codi tâl am gymorth. Beth sydd ganddynt oll yn gyffredin yw'r bobl sydd y tu ôl iddynt sy'n cefnogi cod agored, WordPress, a'i drwydded GPL.

Eisiau gweld eich cwmni ar y rhestr hon? Gweld y gofynion.

Rhestr Themâu

Os hoffech chi gael ei gynnwys yn y rhestr hon, anfonwch eich manylion at themes at wordpress dot org. I gael eich cynnwys, dylech:

  • Dosbarthu themâu GPL 100% , gan gynnwys gwaith celf a CSS.
  • Bod gennych o leiaf un thema yng Nghyfeiriadur Themâu WordPress.org, sy’n cael ei gynnal yn weithredol (h.y. wedi ei ddiweddaru o fewn y flwyddyn ddiwethaf).
  • Bod dewisiadau cefnogaeth broffesiynol ar gael , ac o ddewis, cyfaddasu.
  • Dylai eich gwefan fod yn gyflawn, wedi'i gynllunio'n dda, yn gyfredol, ac yn edrych yn broffesiynol.
  • Darparwch gyfeiriad e-bost cyswllt a chadwch ni'n gyfredol, petawn ni angen cysylltu â chi.
  • Darparwch haiku (5-7-5) i’w gynnwys amdanoch chi eich hun.