News

Sem categoria

WordPress 4.5

Sem categoria

  • WordPress 4.5

    Mae’r fersiwn diweddaraf o WordPress wedi ei ryddhau. Cofiwch ddiweddaru! Mae’n cynnwys diweddariadau diogelwch yn ogystal â nodweddion newydd. Diolch i Rhoslyn Prys, Carl Morris, Iwan Stanley a Gruffudd Prys. Dyma sy’n newydd: Gwelliannau Golygu Dolennu Mewnlin Canolbwyntiwch ar eich ysgrifennu gyda rhyngwyneb fydd yn tarfu llai a sy’n caniatáu i chi gysylltu’n haws â’ch…

    Read Post

  • bbPress – ategyn fforwm

    Mae cyfieithiad drafft o’r ategyn fforwm bbPress ar gael i’w brofi. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch drwy post@meddal.com  

    Read Post

  • WordPress 4.4

    Mae WordPress 4.4 yn gwneud eich gwefan yn fwy cysylltiol ac ymatebol. Thema newydd… Mae ein thema ragosodedig diweddaraf, Twenty Sixteen, yn ddiweddariad i’r thema blog clasurol. Mae Twenty Sixteen wedi ei adeiladu i edrych yn dda ar unrhyw ddyfais. Bydd cynllun grid llyfn, pennyn hyblyg, cynlluniau lliwiau hwyliog a rhagor, yn gwneud i’ch cynnwys…

    Read Post

  • WordPress Android 4.7

    Mae’r diweddariad yma’n cynnwys y newidiadau canlynol: *Mynd i’r ap i weld ystadegau heddiw? Gyda’r Teclyn Ystadegau newydd mae modd dilyn eich ystadegau o’r dudalen Cartref. * Mae hysbysiadau’n wych. Hysbysiadau wedi eu hidlo? Gwell fyth. Helo, bar hidlo hysbysiadau newydd! Mae WordPress ar gyfer Android yn rhoi grym cyhoeddi yn eich dwylo chi, gan…

    Read Post

  • WordPress Android 4.5

    Mae’r ap WordPress ar gyfer Android wedi cael ei ddiweddaru i fersiwn 4.5 gyda mân welliannau: Gosodiadau Hysbysiadau Newydd sy’n caniatáu i chi newid hysbysiadau pob blog yn unigol. Hoffi (neu beidio) beth rydych yn ei weld? Gallwch nawr gyhoeddi neu ddychwelyd newidiadau lleol yn y sgrin Rhagolwg. Cefnogaeth i bentwr o hysbysiadau yn Android…

    Read Post

  • WordPress 4.3

    Mae un o raglenni creu gwefannau mwyaf poblogaidd newydd gael ei ddiweddaru ymhellach ac yn parhau ar gael yn Gymraeg. Hyd at ddoe cofnodwyd fod 205 o wefannau yn defnyddio’r Gymraeg, cynnydd o 50 ers y llynedd, cynnydd da felly. Fideo am WordPress 4.3 Y cynnwys newydd… Cyfrineiriau Amgen Cadwch eich gwefan WordPress yn fwy…

    Read Post

  • WordPress Android yn Gymraeg

    Mae WordPress Android yn ap sy’n caniatau gweithio o fewn gwefannau WordPress oddi ar eich ffôn Android neu dabled. Mae’n cynnwys gwefannau ar WordPress.com a rhai wedi eu hunan letya – fel Haciaith.com. Mae’r ap ar gael o Google Play. Mae’n cynnig llawer o’r un modd i gyfansoddi a golygu a’r fersiwn ar-lein ond ar ddyfais…

    Read Post

  • WordPress 4.2 yn Gymraeg

    Y diweddaraf gan WordPress: Ffordd haws o rannu cynnwys Clipio, golygu, cyhoeddi. Ymgyfarwyddwch â’r Press This newydd a gwell. O’r ddewislen Offer, ychwanegwch Press This i’ch bar nodau tudalen yn eich porwr neu sgrin eich dyfais symudol. Unwaith mae wedi ei osod gallwch rannu eich cynnwys yn sydyn iawn. Dyw rhannu eich hoff fideos, delweddau…

    Read Post

  • WordPress 4.1 yn Gymraeg

    Mae’r fersiwn diweddaraf ar gael un ai drwy fwrdd gwaith eich gwefan fydd yn eich annog i ddiweddaru neu o wefan Cymraeg WordPress. Mae WordPress yn dilyn cylch ryddhau fersiwn newydd bod 3-4 mis ac felly’n cynnig cyfle i gynnig nodweddion newydd yn ogystal â chynyddu’r diogelwch. Cofiwch ddiweddaru i’r fersiwn diweddaraf er mwyn sicrhau…

    Read Post

  • WordPress 4.0 yn Gymraeg

    Mae Rhos Prys, cyfieithydd WordPress, yn dweud: Beth sy’n newydd? – dyma’r blyrb gan WordPress: Mae WordPress 4.0 yn cynnig profiad ysgrifennu a rheoli mwy llyfn. Rheoli eich cyfrwng yn rhwydd Gallwch weld eich cyfrwng o fewn un grid hardd hir. Mae rhagolwg manylion newydd yn ei gwneud hi’n haws edrych ar a golygu eich…

    Read Post